Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (111)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad o Gynllunio a Chyllido Ôl-16: Adroddiad Interim (30 munud) Dogfen Ategol |
4. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Gwneud gwahaniaeth: Rôl amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd o ran mynd i'r afael â thlodi plant (30 munud) |
5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol - y Bil Twf a Seilwaith - Caniatâd Cynllunio Tybiedig ar gyfer cydsyniadau i gynhyrchu (15 munud) NDM5124 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio tybiedig ar gyfer cydsyniadau i gynhyrchu o dan adrannau 36 a 37 o Ddeddf Trydan 1989, sydd wedi cael eu dwyn ymlaen yn y Bil Twf a Seilwaith, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau Ategol |
6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - y Bil Twf a Seilwaith - Diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (15 munud) NDM5125 Edwina Hart (Gwyr) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Twf a Seilwaith sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Rhagfyr 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii). Dogfennau Ategol |
7. Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013 (15 munud) NDM5158 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Sylwadau ac Apelau) Cerbydau a Symudwyd Ymaith (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2012. Dogfennau Ategol |
8. Dadl: Ymgyrch Bwyta'n Gall Newid am Oes (60 munud) NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd yng Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a halen ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau. 2. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet yng Nghymru. Dogfen Ategol Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny: Yn
gresynu bod pump o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r
lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr
i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o
ymwybyddiaeth am fwyta’n iachach yn helpu i wella
hyn. Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi bod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel rhan o’i hymgyrch. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cynhwysfawr ar gyfer diogelu’r cyflenwad bwyd. Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod deiet gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew. Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu bod pump awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn. Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r dull orfiwrocrataidd o weithredu yng nghyswllt Blas am Oes sy’n ychwanegu at gost darparu bwyd iach mewn ysgolion. Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o fwydydd iach yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009. Mae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 ar gael yn: http://www.legislation.gov.uk/mwa/2009/3/contents/enacted/welsh |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 6 Chwefror 2013